Can: Dalen Newydd
‘Wy am droi dalen newydd ond mae’r ola wedi’i throi,
- Mi brynai lyfyr arall a sgwennu fel y boi.
‘Wy’n mynd i newid pethe, a bod yn berson da
I’r bŵs, y ffags a byta’n hwyr rhaid imi ddweud ta’ta.
Ie! Clirio mas y pethe sy’n sbwylio mywyd i
Y clwbie golff. .. y teli ... y ffôn...y wraig....a’r ci!
Bydd hon yn ddalen enfawr yn fwy na bar y Ship
A’r geirie olaf arni bydd “HWRE! Hei leiff, HIP HIPâ€
Ni fydd neb yn dianc rhag fy sbeit am llid
Gwleidyddion, Brymis ,Brussel Sprouts yn diflannu’n rhwydd o’m byd
Ci rhech y boi drws nesa yn esgyn i’r cenel nefol,
A dyn y tax ceith fynd i’r jawl (bydd e’n timlo’n reit gartrefol)
Tai hâf, cerdd dant, ymwelwyr –pobol sy’n dweud “Snowdoniaâ€
Prîns Charles, y cwîn – a HAEMORRHOIDS (odd rhaid i fi checo hwnna!)
Eddie Butler, Brian Moore – ‘wy jest a dod i ben
Celebrity Come Dancing – a dyna ni – AMEN!
Dewi Pws
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 12/01/2014
-
Englyn: Weiren Bigog
Hyd: 00:17
-
Englyn: Weiren Bigog
Hyd: 00:10
-
Carol Blygain: Gwyrth y Geni
Hyd: 00:51
-
Carol Blygain: Gwyrth y Geni
Hyd: 01:40