Main content

Telyneg neu Soned: Plygu.

Di-eiriau yw'r creyr papur,
a'i gyfaill
a'i holl gywion hithau.
Haid fud o dystion lliw
yn deor o blisgyn dynolryw.
Adar bach bregus Sadako,
y mil a mwy o adar mân,
yn hedfan o Hiroshima.
A finnau'n lwcus, freintiedig fy myd,
yn mynnu gweld
y tu hwnt i'r plygiadau cain,
ddalen lân.

Sian Northey
9.5

Cyfanswm Marciau: 71.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

27 eiliad

Daw'r clip hwn o