Main content

Telyneg neu Soned: Plygu.

鈥淚 have been bent and broken, but -I hope- into a better shape.鈥
(Emily Dickinson)

Ar arfordir moel Ceredigion, ar gyrion y gorllewin eithaf,
ar y tir uchel uwchlaw Aberarth a Llanon, er enghraifft,
fe welwch chi'r coed 鈥 a ydynt yn haeddu'r enw coed? -

yn gwrthod edrych ar y m么r, yn troi eu cefnau ar y tonnau
hyn sydd yn siarad mewn legato gwyn, y melod茂au'n blygion
sydd yn tywallt yn ochneidiau ar y traeth.

Ond, fan hyn, pan fydd y gwynt yn chwipio鈥檌 gynddaredd
hen ar freuder rhisgl eu goroesiad ac yn rhwbio鈥檙 halen,
unwaith eto, yn y briw, mae鈥檙 swildod, mae鈥檙 lletchwithdod hwn

a鈥檙 ystum eisiau dianc 鈥 fel dynion ffatri Lowry yn eu cotiau tynn 鈥
mae hyn i gyd yn styfnigo gwraidd yn wyneb stormydd blin
a cheir a charafanau a rhuo plygeiniol lor茂au鈥檙 ffordd fawr.

Dafydd John Pritchard 鈥 Y C诺ps
9.5

Cyfanswm Marciau: 72

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o