Main content

Cân Ysgafn: Y Clwb.

Mae’n rhaid cael cyfweliad i ymuno,
Ac offrymu rhyw siec go fawr,
Gwisgo’r menyg, a’r bwts a’r clustdlysau
Ym Mallwyd ar doriad y wawr.

Mae’r seremoni derbyn aelodau
Yyda’r mwyaf cyfrinachol drwy’r byd.
Yymysg rhai o’r offer a ddefnyddir
Mae brithyll a wêdars a glud.

Drwy wyrth, os y cewch chi eich derbyn,
Mae’n orfodol arnoch i chi dyngu llw,
Y byddwch yn arddangos y logo
Ar eich talcen – ar ffurf tatw.

Mae’r Clwb, am eleni, am lacio
Ar reol rhif saith deg ac un,
Achos diflas tu hwnt i mi bellach
Yw c’warfod ar fy mhen fy hun.
 
Mei Mac
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

50 eiliad

Daw'r clip hwn o