Main content

Cywydd yn derbyn gwahoddiad.

Wrth gwrs, mond ffrindiau'n sgwrsio,
oeddem, ac y byddem, sbo,
ond yn seibiau’r bylchau bach
eginodd sgwrs amgenach:
rhyw sôn ar gyrion geiriau
a chil-wenu’n denu dau.
Nid da brys, bu petruso,
bu oediad, dwy eiliad, do,
a heno daeth ‘ni ein dau’
yn fwy na ‘ti a finnau’.
Yn dawel, rwy’n dweud ‘ia’:
gwenu wnei – rwy'n clywed ‘gwna’.

Sion Aled

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

40 eiliad

Daw'r clip hwn o