Main content

Cywydd yn derbyn gwahoddiad.

Y beiciwr Geraint Thomas yn derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn y canfed Tour de France

Byw’r ras y bûm tua’r brig
Yn barod, ac rwy’n beryg.
Wedi mynd am aur Llunden
A’i gael rhwng gwingo a gwên,
Peltio hewl y peloton
Eleni fydd f’olwynion.
A duwiau yr Alpe d’Huez
Yn taer sgyrnygu’n y tes,
Y ras fydd fy nghyffur i,
Rhamant fydd pob briw imi
Hyd y lôn, nes daw Allez
Iasol y Champs Elysées.

Huw Meirion Edwards

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

29 eiliad

Daw'r clip hwn o