Main content

Telyneg neu Soned: Trwsio.

Mae maes brwydr Culloden ger Inverness – pan laddwyd 1,500 o Jacobeits mewn awr gan fyddin y llywodraeth yn 1746 –wedi’i gadw fel yr oedd, gydag enwau’r clan ar y beddau hirion. Nid swn ymladd ond adar a lliwiau blodau’r haf sydd yno heddiw ac mewn canolfan dreftadaeth newydd ysblennydd, edrych yn ôl a chofio cyn camu ymlaen at ddyfodol newydd ydi’r naws.

Rhos y colledion yw Culloden, mawn
a’i ddŵr yn ceulo’n ddu dan draed y co’,
y dagrau’n crynu, fel y niwl go iawn,
a’r ofn – a’r nerth – i ddod am dro.
Wrth feini’r beddau torfol, y mae tad
yn galw’i fab a dangos enw’r clan
a dweud lle’r aeth yn grïau frethyn gwlad
yr union deulu yn yr union fan.
Ar do’r lle bwyd, mae rhestrau’r un un enwau’n
rhengoedd – clod i’r noddwyr hyn sy’n creu
edafedd newydd dros yr hen rwygiadau:
dod â grug a banadl ac ail-weu
ysgallen haf drwy ffos a bedd a baw
a chodi hedydd cân ar ôl y glaw.

Myrddin ap Dafydd

9.5

Cyfanswm Marciau: 74

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

53 eiliad

Daw'r clip hwn o