Main content

Telyneg neu Soned: Trwsio.

Bore Sul o chwilio
ar lan y môr
ac fe ddown nhw o hyd
i rwyd ’di rhwygo.

Dw i’n clymu stori,
yn y cortyn,
am bysgotwr
yn bwrw’i rwyd i’r dŵr
gan weld eu gobeithion
ym mhatrwm y tyllau.

Eu gwylio wedyn
yn chwilio
yn y pyllau.

Ac fe ddown nhw nôl
â dim ond coron o wymon a phren
yn sownd yn eu straeon
ond mae hyn yn ddigon…

A dyma fi
wedi fy nal
mewn Sul arall
sy’n ddim ond cregyn
ac ogof wag.

Mari George

10

Cyfanswm Marciau: 76.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

33 eiliad

Daw'r clip hwn o