Main content

CΓ’n Ysgafn: Yr Ymweliad.

CΓ’n Ysgafn: Yr Ymweliad.

β€žAliens m’yn diawl”, gwaeddodd Idwal, wrth faglu i far y Llew Gwyn,
β€žDi glanio yn safle’r anabl, mae’r ddau ar eu ffordd i’r fan hyn”.

Y wich o'r hen ddrws derw dwbl a fferodd fΓͺr esgyrn bob dyn,
Ond roedd Idwal yn rong wedi'r cwbl,oherwydd d'oedd yno ond un.

Yr ias yn 'Y Llew' oedd yn ingol, llysnafodd i mewn yn ddi-hid
A gofyn i bawb yn bresennol "Be gym'rwch i'w yfed i gyd?"

Ysgwydwyd y lle gan fonllefion, croesawyd yr Eliyn i'w plith,
A hwnnw'n rhoi diodydd i'r ffyddlon a'n rhannu sigars rif y gwlith.

"Gylybygylyrg yw fy enw, rwy'n Zyth o fydysawd Gylog
Mae'n anodd i'w ddweud pan ti'n feddw, ac felly, jesd galwch fi'n Zog"

Pen dim fe ledaenodd y stori fel feirws eithriadol o chwim
"Gylybygylyrg sydd yn talu!". "Mae pob un diferyn am ddim!".

Ni welwyd eirioed y fath fwrlwm rhwng muriau profiadol 'Y Weit'
A dyma'r tro cyntaf erstalwm i'r sabath fynd heibio heb ffeit.

Nos Iau, roedd pob pwmp wedi sychu.Dim deigryn o Γͺl yn y lle
Aeth Zog draw at Morus i dalu, a'r barman ddywedodd "O..o..c..Γͺ..Γͺ.Γͺ..Γͺ,

"Dwy fil, pedwar cant a dwy geiniog!" "I'r dim.Cadwa'r newid" medd Zog
Gan estyn rhyw bishyn bach sgleiniog, a dweud "Dyna chdi. Pedair Glog"

Wel, diolch i Forus 'Weit Leion' ni welwn fyth eto'r un Zyth
Aeth Gylybygylyrg efo'r afon, a baniodd bob Eliyn am byth

΄³Γ΄²υ

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o