Main content

C芒n Ysgafn: Yr Ymweliad.

C芒n Ysgafn: Yr Ymweliad.

Daeth cnoc ar ddrws y t欧 鈥檆w: roedd 鈥檔a heddwas yn yr ardd.
Pe bawn i鈥檔 hollol onest, nid oedd o鈥檔 greadur hardd.
鈥淓xcuse me, sir鈥 dywedodd. Mi ges innau hanner ffit:
roedd gen i yn fy mathrwm ryw blanhigyn ilejit
yn anrheg o Jamaica. 鈥淥h I鈥檓 sorry, you mean me?鈥
gofynnais er na welwn yno neb, 鈥檓ond fo a fi.
Mi chwyswn chwartiau bellach (am ryw reswm, gwisgwn g么t).
鈥淵es, you鈥 oedd geiriau鈥檙 plisman. 鈥淒o you know who owns this goat?鈥
Dim ond bryd hynny, sylwais, wrth ei gwt yr oedd bwch gafr
yn sniffian rownd ei drwnshwn fel petasai鈥檔 cynnig ffafr.
鈥淲e found him on the corner鈥 meddai鈥檙 dyn o鈥檙 South Wales Force.
鈥淎ppears to be local. Does it happen to be yours?鈥
Wel nefoedd. 鈥淕wranda washi,鈥 meddwn. 鈥淒w i鈥檓 yn ffarmwr, reit?
Tydw i鈥檓 yn mynd i鈥檙 Royal Welsh yn unswydd i gael ffeit...鈥
Yn blaen dywedais wrtho nad y fi oedd biau Bil
(mae鈥檔 enw gwell ar afr mae鈥檔 si诺r na Don neu John neu Jill).
Ymlaen yr aeth yr heddwas felly鈥檔 ddryslyd lawr y l么n.
Amdanyn nhw fyth wedyn hyd y lle ni chlywais s么n,
ond os bydd rhai yn holi oes gafr eto ar y tir
yn crwydro鈥檙 creigiau geirwon heb ei godro 鈥 y mae鈥檔 wir.

Rhys Iorwerth

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o