Main content

Cywydd yn estyn gwahoddiad.

i ddathliadau deucanmlwyddiant Nebo, Y Rhiw, 11–07–2013.

Ar ddwy ganrif ei brifiant
Dewch bobl hÅ·n, deuwch blant
I Dŷ’r rhyfeddod a oedd
Yn air yma, yn rymoedd.
Mae ei ust yn ymestyn
Tu hwnt i ddiflastod dyn.
Pob sedd â’i huodledd hi,
Mae emynauÂ’n y meini,
A balm ‘Mi glywaf’ o bell
A’n llenwa ag un llinell.
Dewch at breseb yn Nebo,
Yr ias gynt nid aeth tros go’.

Gareth Williams

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

37 eiliad

Daw'r clip hwn o