Main content

Cywydd yn estyn gwahoddiad.

Gwahodd Russell Goodway i Ffair Tafwyl

Tafwyl o hwyl, Russell, was,
oedd hon ar lawnt dy ddinas
a’n hieithoedd yn dinoethi
ar lain las dy deyrnas di.
Chdithau’r truan o dan do
er y tywydd partïo.

Bu’n fwriad yma dy wadd
un ha’ o oerni’r neuadd
i gerdded rownd y gerddi.
Eto, was, a ddeuet ti?
Efallai fod rhai’n rhy hen
i ryw ŵyl yn yr heulwen.

Rhys Iorwerth

10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

35 eiliad

Daw'r clip hwn o