Main content

Telyneg neu Soned: Awr.

Mae’r bore cynnar
Yn prysuro trwy’i ddefodau,
Yn agor llenni i haul Mawrth
A chyfarch β€œBore da”.

Mae’r bore trefnus
Yn agor drysau,
Yn fy nhywys ar hyd coridorau,
I guro anhrefnus fy nghalon.

Daeth fy awr;
Mae’r munudau
Yn fy rhoi ar lwyfan hylendid,
Dan lifoleuadau;
Pigiad . . .

Ann Richards

9

Cyfanswm Marciau: 72

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

26 eiliad

Daw'r clip hwn o