Main content

Telyneg neu Soned: Awr.

Bu'r tri ohonom uwch ein peintiau'n fud
am awr yn gwylio'r machlud newydd hwn,
a dim ond swn a rheg rhyw Sais o hyd
yn fwrn. Sawl gwaith ddigwyddodd hyn? Ni wn.
Sawl noson dawel gyda'r mor ei hun
yn ddarfod llonydd ac yn hepian hardd,
gan guro'r artist fynnodd dynnu'i lun,
y rhegwr hwn o Sais ac ambell fardd?
Gall rhywun gynnig delwedd: rhosyn rhudd,
a'i holl betalau hyd y tonnau'n fflam;
neu ymroi ΓΆ phaent, ond pa ddiben sydd,
heb sut na phwy i'n poeni, dim ond pam?
Mae'n awr o aros y diflaniad chwim,
a waeth i minnau ddechrau rhegi, ddim.

Dafydd John Pritchard

9.5

Cyfanswm Marciau: 72.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

43 eiliad

Daw'r clip hwn o