Main content

Cywydd yn diolch am rodd.

Cefais rodd o wahoddiad
a’i wres hael ddygodd berswâd.
Wrth y bwrdd, ces gwrdd ag iaith,
a rhyddid hwnt i ryddiaith
gâi’i weini ar y lliain.
’R ôl dishgled soned a’i sain,
yfais win llif o seiniau
a bu cân yn bywiocáu’n
gerdd gaeth, megis maeth a mêl
arno. Oes, mewn rhyw gornel,
mae’na le i mi’n y wledd
ac yng nghân y gynghanedd.

Philippa Gibson

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

30 eiliad

Daw'r clip hwn o