Main content

Cywydd yn diolch am rodd.

I ddiolch am lwyth o dail gan fy mrawd yng nghyfraith

Amheuthun ydoedd, Mathew,
Arogl tail trioglyd tew
Dy domen pan roist imi
Drysor llaith dy wrtaith di.
O’i roi’n yr hen gramen grin
Ar waith ym Mancyreithin,
Yn iach eilwaith dychwelodd
Lliwiau’r haf. Pa raid gwell rhodd?
Baw bendigedig ydyw!
Uwch y clawdd fy niolch clyw
Yn sawr y rhosynnau sy
I’w gweld dan do’r Ysgoldy.

[Bancyreithin – fy nghartref i; Yr Ysgoldy – cartref Mathew]

Huw Meirion Edwards

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

30 eiliad

Daw'r clip hwn o