Main content

Cywydd yn gofyn cymwynas.

(Gofyn cymwynas ar ran CYD i Gymry Cymraeg i siarad ậ dysgwyr )

Dere mewn i gadw’r mur.
Y dasg yw hybu’r dysgwyr
Ac estyn llaw groesawgar
Draw i sgwrs dy filltir sgwậr,
Siarad mận a wna’n huno
Ni i gyd yn deulu dan do.

Mae yno iaith i’w mwynhau
A phaned chwalu’r ffiniau,
Y baned sy’n ddywedyd,
Siarad sy’n gariad i gyd.
Dere i agor y stori
Gyda gwện. Mae d’angen di.

Idris Reynolds

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

34 eiliad

Daw'r clip hwn o