Main content

Cywydd yn gofyn cymwynas.

Dyma ni’n yr heli’n rhydd
a’r haul yn llond yr hewlydd.
Y traethau gwag yn agor
a dau’n mynd trwy dwyni môr
y pentir hir, bnawn o haf.

A hi’n oeri, synhwyraf
nad y gorwel a weli
o’r lan yw fy ngorwel i,
a hen niwl sy’n dychwelyd.

Dwed i mi’n ein chwithdod mud,
be dybi di, wedi’n dydd,
yw’r haul fu’n llond yr hewlydd?

Rhys Iorwerth

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

28 eiliad

Daw'r clip hwn o