Main content

Cerdd Rydd: Digon.

Mae’n llinell anweledig,
ond gwn ei bod hi yno -
yn fy nghwpwrdd bwyd
a fy nghwpwrdd dillad,
ar fy mhlât
ac ar bob gwydryn
a phob potel.
Mae yno wrth gellwair a thynnu coes
a rhwng un pâr o esgidiau a’r llall.
Fe welaf linellau pobl eraill yn eglur –
ar eu platiau,
eu cyfrifon banc
a’u colur.
Ond wela i byth fy llinell i,
honno rhwng digon a gormod

Sian Northey

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

33 eiliad

Daw'r clip hwn o