Main content

Cân Ysgafn:Y Cyfaddawd.

Wel, mi oedd o’n hen a pharchus
Ag arian yn ei god,
Ac roedd yr amser iddo brynu
Ei fwthyn wedi dod.

Anfonodd am fanylion
Un reit unig wrth ei lun
Oedd ar werth ger Aberdaron,
A’i hel-hi am Ben Llŷn.

Mi gafodd hyd i’r bwthyn
Yn yr haul ar ben y rhiw,
A be’ welai o wrth syllu
O stepan ddrws ‘Sea View’

Ond mil o garafannau,
A’r hyn oedd lawer gwaeth:
Tair mil o garafanwyr
Yn torheulo ar y traeth...

Wel, mi brynwyd yn y diwedd
Focs pren, heb fod yn fawr,
A draw o dan Bont Menai
Y rhôth ei ben i law
 
Twm Morus

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o