Main content
Cywydd Mawl (heb fod dros 12 llinell): I unrhyw declyn.
Cwmpawd
Er dyfod niwl di-godi,
y gorwel braf welaf fi
yn agos yn dy lygad,
y mur llwyd mwy yw’r holl wlad.
Yn y drin, diwyro wyt,
goleudy diogel ydwyt
i’m henaid groesi mawnog,
rhag hafnau y creigiau crog.
Yn dy gwmni di nid oes
lle unig coll i einioes;
a bydd, le bynnag y bof,
dy wyneb wastad ynof.
Rhys Dafis
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 30/06/2013
-
Trydargerdd: Yr hyn a gyflawnais heddiw.
Hyd: 00:09
-
Englyn ar y pryd: Priodas.
Hyd: 00:13
-
Cerdd Rydd: Digon
Hyd: 00:44
-
Pennill Ymson mewn canolfan alwadau.
Hyd: 00:31