Main content

Cerdd Rydd: Carthu.

A phan y daw hi'n amser mi a’i ati fel petai dim wedi newid.
Fi fyddai'n gwneud erioed.
Mi fydda‘ i'n cau holl fotymau'r ofarols yn ofalus
ac yn gwthio nhraed i mewn i'r welingtons.
Daw deuawd gwich y drws a melyn isel yr haul i nghyfarch fel erioed.
Mi fyddai'n troedio'n araf lawr i'r iard,
gan adael i oriau'r dydd a sgyrsiau'r gwenoliaid lenwi 'mhen.
Mae coes y rhaw mor gyfarwydd ag aur fy modrwy briodas.
A rhai diwrnodau mi fydda‘ i'n ei throi hi am y tŷ
heb deimlo holl hiraeth y byd yn cronni,
a weithiau mi fydda‘ i'n cofio cyn rhoi bloedd
i ddweud 'mod i wedi gorffen ac y bydd swper ar y bwrdd cyn pen dim,
nad oes neb yno yn aros.

Casia Wiliam
 
9

Cyfanswm Marciau: 54

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

49 eiliad

Daw'r clip hwn o