Main content

Cân Ysgafn: Diarhebion.

Mae mwnci ’da fi ar y clos,
Rwy’n ei fwydo â phî-nyts bob nos,
A hyn sydd yn ffaith,
Mae e werth dim am waith,
Ond jiawch, mae e i weld yn jacôs.
Rwy’n bwyta fy mara mewn chwys
Drwy weithio yn llewys fy nghrys,
Ond mae’r ffermwr drws nesa’
Yn codi gwell porfa
Drwy beidio aredig ar frys.
Pan fod hi yn arllwys y glaw,
Mae menyw sy’n byw dros y claw’
Yn fy ngalw i ati
Er mwyn cyfeillachu –
Mae’r borfa yn well ’rochor draw.
A phan rwyf yn teimlo yn flin
Wrth dalu i gadw y Cwîn,
Mi donca i’n ddyfal
Pob dime’n yr ardal
A’u troi nhw i felin fy hun.

Emyr Oernant

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

52 eiliad

Daw'r clip hwn o