Main content

Cân Ysgafn: Diarhebion.

Cân Ysgafn: Diarhebion.

Fe geisiaf eto ganu cân a’r rheswm ydyw hyn
Nad oes gennyf dim byd gwell na dala slac yn dyn.
Ond deuparth gwaith ei ddechrau, meddyliais byddai’n ddoeth
I guro ar yr awen, tra fyddo’r harn yn boeth.
Pam dewis y fath destun mae digon o rai gwell,
Ond pan fo’r call yn colli, mae’n colli yn reit bell.
Pwy gafodd y fath syniad, rhyw fwydyn hanner dall,
Efallai Prifardd Dwbwl, ni enir pawb yn gall.
Ta waeth rwyf am ymgeisio gwneud campwaith fwy neu lai,
Rôl dyfal donc, rwy’n ofni nad oes na neb heb fai.
Rwy’n un o’r llestri gweigion sy’n cadw lot o sŵn
Yn foi bach prin o dalent, llawn gwynt yw pob balŵn.
Er mod i’n nhim y Talwrn ers tro yn rhoi help llaw
Pan dybiais yn fy ngwendid fod rhyw fan gwyn fan draw,
Ond gair i gall a gefais er dirfawr siom i mi
Nid aur yw popeth melyn, mae’n brin da’r Â鶹ԼÅÄ.
Mor dlawd wyf a llygoden, o eglwys fach y plwy’
Af mlaen ymhell yn ara’, ymlaen at bethau mwy.
Can’s cofiais y ddihareb pan gaf i farciau llawn
Mae meuryn da yn unig sy’n gwerthfawrogi dawn.
 
Emyr Davies

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o