Main content

Cywydd: Rhigol.

O’r allt, gwelem yr hollti
yn yr hewl, ond ei throi hi
wnaem, sha thre, i’n ‘te ’flaen tân’
bob ochor i’r bwrdd bychan.
Trwy’r coed, er ein haildroedio,
newydd fu’n trywydd bob tro
o’i gamu’n iawn – ac aem ’nôl
am ragor ! Y mae rhigol
ôl ein traed ar lôn trwy’r allt
sha thre at y te’n tywallt
nawr ar rudd yn nwfn pob rhych
a’i llun o wenu’n fynych.

Phillipa Gibson

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

31 eiliad

Daw'r clip hwn o