Main content
Cywydd: Rhigol.
Weithiau, wrth godi’r caead,
’sa hi’n medru taeru’n tad,
heibio’r wich, fod eco brau
ddoe’n y nodwydd a’i nodau,
a cham pob dawns a ddawnsiwyd
i’r rhain wedi’u dal mewn rhwyd
drwy’r llais, nes, wrth godi’r llwch
y daw drosti’r hen dristwch
yn ei sgîl. Daw nos y gân
o’r cof i ganu’r cyfan;
dagrau hefyd, i grafu
eu hoel dwfn drwy’r feinyl du.
LlÅ·r Gwyn Lewis
9