Main content

Cywydd: Rhigol.

O ffics i ffics rwyf ar ffo
O raid, ac yma’n troedio’n
Yr unfan mewn tir anial.
A hi’n nos rwy’n cael fy nal
Yn araf fynd mewn rhyw fan
Na ellir dringo allan.

Yn rhywle ceir yr heulwen
Wrthi’n wresog wisgo gwên,
Ond i mi nid ydyw mwy
I’w hadwaen ond drwy nodwy’
Yma’n hwyr tramwyo wnaf
Y daith i’r gwaelod eithaf.
 
Dai Rees Davies

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

39 eiliad

Daw'r clip hwn o