Main content
Pennill Ysgafn: Gair o gyngor i athro neu athrawes.
Athrawon annwyl Cymru,
os ydi’r hen blant bach
yn haedddu cael eu boddi
fel cathod hyll mewn sach;
Os ydi plant eich dosbarth
mor dwp â chaib a rhaw
a chithau’n disgwyl hawndi tri
ers chwartar wedi naw;
Os ydi amser chwarae
yn debyg iawn i’r Somme
a’r wythien ar eich talcen
yn tician fel tae’n fom;
Na phoenwch! Mae cyfiawnder,
mi fydd y salaf sydd
yn mynd fel chi’n athrawon
ar blantos gwaeth rhyw ddydd!
Gruffudd Owen
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 16/06/2013
-
Cerdd Rydd: Carthu.
Hyd: 01:39
-
Cerdd Rydd: Carthu.
Hyd: 00:49