Main content

Cerdd Rydd: Ysgol.

Trwy gael pren o ruddin cadarn
A saer coed i weithio'r ffyn
A chael breichiau cryf yn barod
Yno i'w chodi, fore gwyn.

Trwy gael dwylo i ddal y gwaelod
Fel na lithra unrhyw bryd
A rhoi hyder i'r anturus
I gael esgyn ar ei hyd.

A'r ôl cyrraedd pen yr ysgol
A chael sefyll yno fry
Dyna pryd y gwêl y dringwr
Werth y rhai a'i chododd hi.

Dai Jones

9

Cyfanswm Marciau: 54.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

27 eiliad

Daw'r clip hwn o