Main content

Cerdd Rydd: Ysgol.

Deng niwrnod ar ôl cyn y ‘Dolig
A’r tymor yn sydyn ar ben ;
Y plantos yn lluwchio o’r ysgol
Fel chwthwm plu eira o’r nen.
Rhieni yn tyrru, fel arfer,
Ond heddiw, dyw’r drefn ddim yr un –
Heb neb yn bugeilio’n ofalus
Fel ddoe, dônt yn gawod ddi-lun ;
Heb dinsel na darlun i Dadi,
Na cherdyn i Nain yn eu côl,
A mam ger y giatiau yn craffu –
Adawyd ‘na un bach ar ol?

Gobeithion yn diffodd fel cannwyll,
A doedd hi ‘mond mater o lwc
Pwy gododd eu plant i fynd adref
Yn ddiogel o iard Sandy Hook.

Angharad Davies

9.5

Cyfanswm Mariciau: 52.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

41 eiliad

Daw'r clip hwn o