Main content

Cerdd Rydd: Ysgol.

(er cof am Mrs Thatcher)

Codwyd ysgol i ti ddringo,
daliwyd hi gan ddwylo a gwerthoedd cadarn.
Cyrhaeddaist ei brig,er gwaetha’r gwynt a’r rhagfarn.
Ac o dan dy wybren las gwelaist y byd
yn ddarlum du a gwyn .

A gwelaist y gwaith a’r felin
a’u datgymalu carreg wrth garreg
a chodi tŵr sgleiniog, glan.
Codaist miloedd i weld dy wawr,
ond simsan oedd y seiliau a byr oedd oes y tŵr,

Rhydlyd yw’r felin heno
ac amgueddfa sydd yma nawr.
Ar dafliad y dis
trodd dy ysgol lithrig
yn un neidr fawr.

Phil Thomas

8.5

Cyfanswm Marciau: 50.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

51 eiliad

Daw'r clip hwn o