Main content

C芒n Ysgafn: Parti'r Staff.

C芒n Ysgafn: Parti'r Staff.

Roedd Chum, ein ci nodedig, yn un ar ddiwedd mis
A rhaid oedd cynnal parti beth bynnag oedd y pris,
Aeth llu o wahoddiadau at ffrindiau yma a thraw,
Yn wir, pan ddaeth y diwrnod doedd neb am gadw draw.
Daeth rhai mewn siwt Versace a ffroge cr锚pe de chine,
O blith y dosbarth VIP鈥檚 roedd corgwn swanc y Cw卯n.
Fe gwrddodd Chum 芒鈥檙 bonedd pan aeth i Cryffts rhyw dro;
Tra鈥檔 mynd am w芒c ger llyn Hyde Park fe fentrodd ddweud hyl么.
Roedd pethe鈥檔 mynd yn harti nes winciodd e meilord
Ar un o鈥檙 corgwn perta, gast ddel o鈥檙 enw Maud,
Dechreuodd pethe dwymo 鈥榬么l g锚m o 鈥渉ide and seek鈥
A gwelwyd Chum a Maud y Plas yn dawnsio 鈥渃heek to cheek鈥.
Fe ffromodd Dug Caeredin wrth weld ei antics hy 鈥
Ni phallwyd dim ar nwydau Chum a suddodd ddau neu dri
O鈥檌 ddannedd blaenllym, miniog, mewn man bach digon tyner
O gorff 鈥榬hen foi nes cilio鈥檔 glou pob owns oedd ganddo o hyder.
Fe drodd y parti鈥檔 fedlam, yn llanast randib诺
A daeth y cyfan oll i ben trwy ddwedyd 鈥 Twdl 诺 鈥,
Ond wedi鈥檙 treiffls yfflon, y sgandal a鈥檙 galanas,
Mae gan Chum ni berthnasau lu yng ngoridorau鈥檙 Palas.

Geraint Morgan

8

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o