Main content

Cân Ysgafn: Parti'r Staff.

O’r nefoedd, mae’n amser parti’r staff,
A hawl y plebs i gael gwd laff
Yn cyrraedd eto fel gwynt drwg.
Mae’n anodd peidio gwisgo gwg
A phawb o’m cwmpas, ar fy llw,
Yn ymddwyn fel trigolion sw.

Rhaid troi yng nghwmni’r hoi poloi
A stumio gwên am awr neu ddou,
Gan sipian chwerw cynnes, ych,
Wrth wrando ar eu blincin tych.
Esgus parchu pob rhyw farn,
A’r chwys yn disgyn dafn wrth ddafn.

Gorfod dioddef menyw flin,
A chroen ei thalcen ar ei thîn;
Ar graff arteithiau’r byd o’r bron
Gall dim gymharu gyda hon.
Sdim dewis bellach, rhaid yw ffoi
Cyn chwythu falf, a hynny’n glou.

Ac wrth i’m dianc trwy’r drws cefn
Fe glywaf floedd, “diolch i’r drefn!â€
 
Phil Davies

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o