Main content

Cywydd: Dal Ati.

I riwiau oer y sir hon,
I hau hadau breuddwydion
Yr es ; eto bu gobaith
Y dôi i’r waun gnwd o’r iaith,
Geiriau hardd yn fyw o’r gro,
A geiriau yn blaguro.

Daw y rhew i dorri’r rhain
Yn y cae cyn eu cywain.
Ond er rhew, â hadau’r iaith
I’r rhiw foel mentraf eilwaith ;
Gwneud fel arall ni allaf,
A rhoi’r glyn i’r chwyn ni chaf.

Robat Powel
 
9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

36 eiliad

Daw'r clip hwn o