Main content

Pennill Ysgafn: Gair o gyngor i gynghorydd neu ymgynghorydd.

Ti yr hwn sy’n ddoeth a phwysig, atat ti y daw pob un,
Rwyt ti wastad mor ymroddgar, yn mawrhau dy gamp dy hun ;
Minnau blygaf yn grynedig, pan fydd lecsiwn yn y gwynt.
Fe ddôi atom ni yn eofn, hwyl a hyder yn dy hynt ;
Hysbys wyt o bob cynlluniau, er inni weld dim o’u hôl,
Gwyddost gudd feddyliau’r pwyllgor, a’u crwydradau mynych ffôl ;
Nid oes yn dy ddawn yn unig a ddiwalla’n heisiau mawr,
O rho’r profiad bendigedig o’i heffeithiau hi yn awr,
Dyma’n cyngor,
Cofia d’addewidion di!

Ann Rosser

8.5
 

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

43 eiliad

Daw'r clip hwn o