Main content

Cân Ysgafn: Pawb a'i fys.

Un fendith dyro im
cael Vim ar dap sa'n bleser,
mae llnau o gwmpas Y Sêt Fawr
yn dwyn sawl awr o'm hamser.

Ond im dy llnau yn iawn
fy nawn fydd odidocach,
a'th olchi wnaf pob dydd yn well
heb stinc o hirbell mwyach.

Pan na ddaw oglau dwys
di-orffwys fy mhregethau,
ac yno brofi dinau glan
yng nghytgan yr emynau.

Dy sgelinio digon fydd
yn ffydd dy wasanaethu,
Ac yn oes oesoedd dan dy rech
Fy ymdrech yw dy garu.

Ynyr Williams

8
 

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

43 eiliad

Daw'r clip hwn o