Cân Ysgafn: Pawb a'i fys.
[sef y ‘Pawb a’i Farn’ newydd, mewn byd arall]
Wrth i Es Ffôr Si ddymio lawr at y carn
ni ddymiwyd yn is na ‘Pawb a’i Farn’ -
mae’n llawn caridỳms a honiadau di-sail
dan law Dewi Llwyd, ein Jeremy Kyle.
Mae’r gyfres yn cychwyn â’r ‘poetry scene’
a phob math o racsod am fod ar y sgrîn –
mae ambell archdderwydd, a meuryn neu ddau,
‘di derbyn rhyw gildwrn i’w temtio i’r ffau.
Mae Dewi’n pryfocio, mae Dewi’n creu stŵr:
“A chi sgwennodd honna? Hy? Ydach chi’n siŵr?
Ma’ gynnon ni dystion - rhai da ar y naw –
sy’n deud bod eich cerddi chi i gyd yn ail-law.â€
Honiadau o feiau, trawiadau hen-ffash
a hyd yn oed ffeirio englynion am gash.
Mae’r beirdd yn cynhyrfu, mae rhai’n mynd yn grac,
yn cega, yn coethan, ac yna – smac! –
mae’n dechrau troi’n ffeit, mae’n dechrau troi’n flêr,
mae ambell hen brifardd ar lawr yn gweld sêr.
O ganol y dyrnu, mae Dewi’n rhoi winc:
“A nawr dyma’r egwyl. Dewch nôl ymhen chwinc.â€
Geraint Williams
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 02/06/2013
-
Cân Ysgafn: Pawb a'i fys.
Hyd: 01:34
-
Englyn: Ffurflen.
Hyd: 00:14
-
Cerdd Rydd: Hwyrach.
Hyd: 01:09