Main content

Cywydd: Cynnig.

(Stori wir. Gweithiodd ei chynnig olaf IVF, ond o fewn cwta fis cafodd wybod fod ganddi gancr yr iau. Cynigiwyd triniaeth i barhau â’i bywyd a fyddai’n lladd y plentyn neu eni’r plentyn, a marw.)

Â’th hudol driniaeth wydyr,*
i diwb hesb, daw bywyd pur
yn hwiangerdd angerddol,
esgyrn mân yn gân i’th gôl.

Ond daw y ffrwydriad duaf -
esgor di, ni weli'r haf.
Ynot ti'n fom saboteur,
o’i encil ticia cancyr…

Ni leddi d’epil heddiw,
d’angau di yw’r babi byw.

* In Vitro…

Dafyd Emyr

9.5
 

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

47 eiliad

Daw'r clip hwn o