Main content

Cywydd: Cynnig.

Clyw'r eos rhwng nos a nant
Yn felys ei chyfeiliant.
Mor ddyfal yw ei halaw
Yno'n glws mewn gwynt a glaw.
Mor daer yw hi ym mro'r drain,
SΕµn hyder sy'n ei hadain.

Ond uwch hen fyd ei chΓΆn fach
Sy' heno'n hel briwsionach,
Mae ei haith yn haeddu mwy,
Hi o raid yw ein drudwy.
Cyfod eos dos yn deg
A chana am ychwaneg.

Aled Evans

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

31 eiliad

Daw'r clip hwn o