Main content

Cerdd Rydd: Weithiau.

Mae’r ddau yn prifio ac yn mentro’n awr
Tu hwnt i fae eu mebyd fu mor saff
Yn eofn ofnus tua’r cefnfor mawr
Lle bydd rhaid codi hwyl a thynnu rhaff.
Rwy’f innau’n gapten segur ar y lan
Heb ddim i’w wneud ond dala’r slac yn dynn,
Rhyw hanner gwylio’r hyn a ddaw i’w rhan,
A rhoddi cyngor nad oes neb a’i myn.
Ond weithiau, er y gallwn innau’n wir
Fwynhau rhyw rhyddid tebyg iawn i’r ddau,
Yr hyn a wnaf yw edrych ‘nôl yn hir
At gyfnod pan na fyddai dim pellhau.
A gwelaf eisiau’r agosatrwydd llwyr
Nas profaf eto, oni fegir ŵyr.

Elin Meek

9.5

CYFANSWM MARCIAU: 52

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

51 eiliad

Daw'r clip hwn o