Main content
Cerdd Rydd: Weithiau.
Dy wely eto’n
llawn o straeon tylwyth teg
a chywion bach
a thithau’n ymbil arna i
i beidio dod â’r dydd i ben.
Dw i’n creu nyth o eiriau bras
tan i ti gysgu
ac yn diolch am dawelwch.
Ond deffraf
a’m breichiau’n dal
dy hunlle di
a gwelaf
dy adenydd
yn sgathru’r wawr
fel llythrennau
diwedd stori.
Mari George
9.5
CYFANSWM MARCIAU: 54.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 19/05/2013
-
Englyn: CV.
Hyd: 00:09
-
Englyn: CV.
Hyd: 00:13
-
Englyn: CV.
Hyd: 00:10