Main content

Cân Ysgafn: Yr Anghyfiawnder.

Mae i’w deimlo fel ddoe, ond flynyddoedd yn ôl,
Fel llawer un arall fe wnes i beth ffôl;
Aeth Ifan yr Hendre a Dei Bach a fi
I ffair fawr Pentymor am dipyn o sbri.
Ac yno y gwelsom dair ffres fel Blodeuwedd
Ond un gyda’i sodle fesurai chwe modfedd,
A honno gymerodd fy llygaid a’m serch,
Ni welais erioed ddim prydferthach merch!
Cafodd Ifan a Dei ddwy sobor o salw –
Yn salwach byth wedi dau beint o gwrw.
Tair priodas a gafwyd, sef Ifan a Leusa,
Dei Bach gyda Meri, a fi a Matilda.
Mae’r ddeubar arall yn fodlon eu byd,
Yn magu babis a siglo’r crud.
I Matilda roedd berwi wy yn job,
A buan y gwelais mai fi oedd y lob,
Yn dewis yn wraig un mor anobeithiol,
A hynny i gyd am ei bod mor ddeniadol.
Mae rhaid bod ‘na degwch yn rhywle’n y byd ‘ma,
Ond nid tegwch yw tegwch o fyw ‘da Matilda

Harri Williams

8

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o