Main content

Cân Ysgafn: Yr Anghyfiawnder.

Cân Ysgafn: Yr Anghyfiawnder.

Roedd gwraig fach yn byw yn ei hesgid, un nobl, ymhell dros ei chant,
yn hapus ar ei budd-daliadau, y hi gyda’i degau o blant.
Ond yna fe brifiodd ei thylwyth. Yn raddol, gadawodd bob un,
a gadael ’rhen wraig yn bruddglwyfus, heb gwmni’r un adyn, na dyn.

A’r holl ystafelloedd yn atsain, daeth swyddog i hel bedroom tax
yn smart yn ei siwt un boreddydd a styrbio ei full body wax.
Gan hynny, rhoes alwad am lodgers, rhai ffansi, dim unrhyw riff-raff;
yn wir, ’mond selebs ac enwogion roedd hi am eu gadael i’w gaff.

Y cyntaf i gyrraedd oedd Iolo, a’i adar sglyfaethus, a’i gath,
ac yna Huw Edwards a’i deiau, nas gwelwyd erioed ddim o’u bath.
Daeth Gwynfryn, Daf Du a’r hen Garyl, y ferch dweud y tywydd, Yvonne,
a Prysor, Llanilar a Dudley, ac yna daeth sêr y bêl gron,

sef Malcom, a Harsti, ac Ebsi, a Hardy ac Iwan a Wayne,
a stalwarts Cwmderi: Dic Deryn, Sabrina a Denzil, Elaine;
i’r atig daeth Rhydian y cantor, a’i wallt oedd yn wynnach na blawd,
CF1, Côr y Wiber, Glanaethwy, pob fersiwn o gôr Men Aloud.

A nawr, doedd dim diben i’r wreigan roi’r teli na’r radio ymlaen;
yn toedden nhw i gyd gyda’i gilydd, yn yr esgid, yn teimlo cryn straen?
Ond cafodd ’rhen wraig waredigaeth, a hithau ar derfyn ei wits,
pan glywodd fod gwely mawr moethus yn sbâr nawr yng ngwesty y Ritz.

Owain Rhys

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o