Main content

Cywydd: Diogi

Mae’n fin nos diddos, a dyn
yn dod adre. Dau wydryn,
gwres y tân, ac ar setî,
er rhyw hanner pendroni
am godi yn egnïol,
heno haws fydd iste’n ôl.

Gwneud paned, sŵn teledu,
sŵn mân yn tician trwy’r tŷ
a’r oriau, fel minnau mwy,
yn rhithio dros bob trothwy
nes bydd, derfyn dydd, hi’n daith
ddi-ddim a lithrodd ymaith.

Rhys Iorwerth

10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

30 eiliad

Daw'r clip hwn o