Main content

Cerdd Rydd: Diosg.

Mae sawr henaint
ar y dillad diwetydd.

Sidan yr ‘c p t’,
‘g b d’,
‘ll m rh’
wedi treiglo
gyda Nant y Mynydd
tua’r llwch.

Glas a choch a melyn
gwisg barti’r diarhebion
wedi hen bylu
mewn cwpwrdd clo.

A hen siwmper gysurus
y gair-bob-dydd
yn dyllog frau
dros fraich y gadair.

Nes cyrraedd noethlymundod
‘We don’t do Welsh’.

Nia Powell

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

34 eiliad

Daw'r clip hwn o