Main content

Cân Ysgafn: Taro Bargen.

Cân Ysgafn: Taro Bargen.

Chewch chi’m deud popeth ar y Bîb, er bod croeso i chi drio.
Sgwennwch gân am xxxxx neu xxxxxxxxx, ac os gwnewch, mi gewch eich sensro.

Credais mai rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar,
Ond mae Anti’n gwrthod i mi ddeud mai xxxxx oedd Magi Thatshar.

Dwi’n cael deud ‘gwrach’ heb drafferth mewn ambell i gyd-destun,
Ond mewn brawddeg efo ‘ding’ a ‘dong’, mae’n stori arall wedyn.

Weithiau, gair sy’n peri tramgwydd; weithiau gymal ar ei hyd;
xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx, ; a’r pennill nesa’i gyd.

xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx
xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx

Cha’ i ddim deud fod y Cwîn yn xxxxx a’r Diwc yn xxxxxxx xxxxxxxxxxxxxxx.
Cha’ i ddim deud fod Ceri Wyn yn xxxxx xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx xxxxxxxxxx.

Cha’ i ddim crybwyll yr AS sy’n meddwi bob prynhawn.
Y bobol bia’r cyfrwng, ond ddim ond y bobol iawn.

Os ydi’r Bî Bî Sî o’r farn fod pobol am ypsetio
Dyma’r unig farn sy’n cyfri, ac mae’n rheidrwydd cydymffurfio.

Mae adran y cyfreithwyr yn debyg iawn i ffair
‘Mond chi enwi xxxxxxx xxxxxxxx x, y boi efo’r tracsiwt aur.

Cam bach o bennu ffiniau chwaeth ydi pennu iaith darlledu.
Yr un giwed benderfynodd mai rhanbarth ydi Cymru.

Ugain llinell ydi’r gân i fod. Heb y darnau dorrwyd allan,
Mae hi’n ugain llinell ar y dot. Gewch chi’r gweddill yn y fargian.

Arwel Roberts

9.5
 

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o