Main content

Cywydd: Deiseb.

Deiseb am ysgariad

Ie’n ateb, conffeti,
Byd heb fai oedd Mai i mi
Nes gwawriodd nos y goddef,
Rhoi dwrn oedd ei gariad ef.

O garu’r haf a’r gair rhwydd
Dod i oriau distawrwydd,
A dôr annealltwriaeth
Rhwng dau a’u calonnau caeth.

Rhoi terfyn a ddymunwn
Ar y bod tan orfod hwn
Am mai hydref yw modrwy
A Mai’n ddim ond hirlwm mwy.

Nia Powell

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

28 eiliad

Daw'r clip hwn o