Main content

Cywydd: Deiseb

Deiseb(Y Dosbarth Canol)

Yr wyf yn tanysgryifio'n
un o'r dorf, yn canu'r dΓ΄n
heb wybod, a heb aberth
chwaith, ond mewn gobaith bod gwerth
i'r un sydd am ymuno
yn y dorf. Efallai, do,
y bΓ»m rhyw fymryn yn bell.
Yn eistedd yn fy nghastell
ddoe, ychydig yn ddi-hid.
Yn euog. Angen newid.
Tybed wrth blannu hedyn,
Ai gwneud ynteu dweud yw hyn?

Nici Beech

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

27 eiliad

Daw'r clip hwn o