Main content

Dawnsio

Lara’n mynd i ddisgo. Mae'r ferched yn colli’r bws olaf adref. Diolch i'r drefn, maen nhw'n gweld Tony a Gabriel, sy'n pryderu amdanyn nhw. Mam Lara sy'n dod i'w nôl nhw i gyd.

Mae Lara (12) ar ben ei digon pan mae bachgen o'r enw Marc yn ei gwahodd i ddisgo o dan 18. Mae hi'n perswadio ei 'mam ym Mhatagonia' i adael iddi fynd, ar yr amod y bydd Lara yn ei ffonio pan fydd hi'n cyrraedd y disgo a phan fydd hi'n mynd ar y bws olaf adref. Yn y cyfamser, mae Gabriel (13) a Tony (13) wedi eu brifo bod y merched wedi anghofio amdanyn nhw er mwyn mynd i'r disgo, yn enwedig am eu bod wedi cytuno i dreulio'r noson yn sgrialu. Ond pan mae diflastod yn eu taro, maen nhw'n sylweddoli nad oes dim byd yn eu hatal nhw rhag mynd i'r disgo hefyd. Yn y disgo, mae Lara'n gweld Marc o'r diwedd ac wedi mopio'i phen yn lΓΆn drosto, nes anghofio ffonio adref. Mae Lara yn ysu am gael dod i adnabod Marc yn well, felly mae hi'n perswadio'r merched i aros yn hirach nag y dylen nhw. Yn y diwedd, mae Lara yn cytuno i adael y disgo ond yn sylweddoli wedyn eu bod wedi colli'r bws olaf adref. Diolch i'r drefn, maen nhw'n gweld Tony a Gabriel, sy'n pryderu amdanyn nhw ac yn aros amdanyn nhw wrth yr arhosfan. Heb ddewis arall, maen nhw'n ffonio 'mam ym Mhatagonia' Lara i ddod i'w nΓ΄l nhw. Ar Γ΄l cyrraedd adref, sylweddola Lara ei bod wedi siomi ei 'mam ym Mhatagonia', a'i ffrindiau, ac mae hi'n addo peidio ag anghofio am ei chyfrifoldebau yn y dyfodol.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu