Main content

Newyddion Drwg

Dysga Monica (11) fod ei mam a'i thad yn cael ysgariad. Yn llawn dicter a gofid, mae hi'n dechrau colli ei thymer gyda'i ffrindiau ac yn camymddwyn yn y dosbarth. Mae ei ffrindiau'n pryderu amdani ac yn ceisio codi ei chalon, ond does dim byd yn gweithio. Yn llawn pryder am eu ffrind, penderfyna Lara (12) ac Akira (12) fynd draw i dΕ· Monica i weld os gallan nhw siarad Γ’ hi am ei theimladau. Diolch i'r drefn, mae Monica'n cael lleisio ei phryderon i'w ffrindiau a bwrw ei gofidiau. Ar Γ΄l siarad Γ’'i rhieni eto, mae Monica'n dal i deimlo'n anhapus ond yn dechrau dod i delerau Γ’'r hyn sy'n digwydd i'w theulu. Awgryma Lara y dylai'r criw fynd i'r ffair, lle gallan nhw fynd ar y car sglefrio (roller coaster) er mwyn i Monica gael rhyddhau ychydig o'i dicter a'i theimladau ymosodol drwy sgrechian mor uchel Γ’ phosibl. Mae'n syniad rhagorol ac yn donig perffaith i Monica.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu